Thursday 22nd October 2026
Cyfarfod Safle Cenedlaethol ATF – 22ain Hydref 2026 – Abergwyngregyn
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i ymuno gyda Chyfarfod Safle Cenedlaethol y Fforwm Coed Hynafol (ATF) yn Abergwyngregyn, Cymru.
Mae Dyffryn Aber un o’r teithiau cerdded mwyaf ysblennydd yng Nghymru, sy’n enwog am y Rhaeadr Fawr sy’n llifo trwy olygfeydd trawiadol o fynyddoedd, coedwigoedd a glaswelltir. Mae’r dwr o’r rhaeadr yn creu amodau addas ar gyfer ‘coedwig law Geltaidd’ gyda casgliad ardderchog o fwsoglau, llysiau’r afu a chennau.
Bydd ein cyfarfod safle yn ymweld y rhaeadr ac yn archwilio’r coetiroedd cyfagos, gan ganolbwyntio ar y tirwedd porfa-coed pren afal gwyllt a draenen wen. Byddwn hefyd yn archwilio sut mae blynyddoedd o rheolaeth tir wedi siapio’r dirwedd, gan gynnwys aneddiadau hynafol, anifeiliaid pori ac arferion coedwigoedd traddodiadol.
Rydym yn falch iawn y bydd Dr Jenny Wong, darlithydd gwadd efo Prifysgol Bangor, yn ymuno gyda ni i drafod ymchwil barhaus i ecoleg a hanes y safle.

Dyddiad ac Amser
Dydd Iau 22ain Hydref 2026
9yb – 4.30yp
Lleoliad
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber, Bangor: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber
Bydd cyfarwyddiadau ar gyfer parcio a man cyfarfod yn cael eu hanfon drwy e-bost at gyfranogwyr gyda manylion pellach y rhaglen.
Mae’r orsaf reilffordd agosaf yw Llanfairfechan
Am mwy o fanylion am drafnidiaeth gyhoeddus, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r pellter cyffredinol tua 6km (gyda 2km o arwyneb garw a 4km o lwybr graen). Byddwn yn stopio’n rheolaidd ar hyd y ffordd. Mae rhagor o fanylion hygyrchedd ar wefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber, Bangor
Dewch gyda cinio – byddwn yn cael cinio ‘picnic’ tu allan.
Mae yna toiledau yn agos at y maes parcio
Mae yna cost i barcio (am ddim i Bathodyn Glas)
Archebu
Cwblhewch y ffurflen archebu isod i sicrhau eich lle. Bydd y rhaglen llawn a’r cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu hanfon allan yn nes at y digwyddiad.
Costau Tocynnau
£25 y tocyn.
Cwestiynau pellach
Cysylltwch â admin@ancienttreeforum.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Credydau Delwedd: Jenny Wong a Jack Walmsley
